Thursday 17 December 2015


Darlithydd ac ymchwilydd ym meysydd diogelu adeiladau a graffeg gyfrifiadurol yn Sefydliad Technoleg Dulyn yw Dr Maurice Murphy PhD, MPhil. Mae’n Aelod o Gymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu. Mae ei brofiad o arolygu a diogelu adeiladu yn ymestyn dros gyfnod o 30 mlynedd a rhagor ac mae ef wedi arwain a chymryd rhan mewn sawl rhaglen wedi’i noddi gan yr UE ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol.

Bydd Maurice yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2016 yn siarad am Fodelu Gwybodaeth am Adeiladau Hanesyddol (HBIM), proses lle mae synhwyro o bell yn cael ei ddefnyddio i wneud arolwg o adeiladwaith hanesyddol cyn mapio gwrthrychau parametrig  sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth ar fframwaith geometrig sy’n seiliedig ar ddata’r arolwg. Defnyddir iaith ddisgrifiadol geometrig i adeiladu’r gwrthrychau parametrig sy’n cynrychioli’r elfennau pensaernïol, a seilir y gwrthrychau hyn ar ddogfennau pensaernïol hanesyddol (rheolau pensaernïol a gramadegau siapiau). Hefyd caiff y rheolau a gramadegau hyn eu defnyddio i fodelu rhannau o’r adeiladweithiau er mwyn cyflymu ac awtomeiddio rhannau o’r broses. Gall y model HBIM sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad gael ei ddefnyddio i gynhyrchu’n awtomatig ddogfennau cadwraeth a dadansoddiadau o adeiladweithiau hanesyddol, yn ogystal â delweddaeth.

 
Bydd y prosiect i ddatblygu’r system gofnodi a dogfennu brototeip hon yn cael ei hegluro drwy gyfrwng astudiaethau achos o waith ar y Four Courts a Henrietta Street yn Ninas Dulyn. Bydd yr adeiladau clasurol hanesyddol hyn yn dangos sut mae’r prosiect yn creu system ar gyfer diogelu, cynnal a rheoli adeiladau hanesyddol.

Tuesday 17 November 2015


Arolwg cyfannol ar gyfer Ymgysylltu Cymunedol

Mae Wessex Archaeology a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi wedi ymgymryd â phrosiect ar y cyd i fesur a phywso gwerth defnyddio arolygon digidol cyfunol i ennyn diddordeb cymunedau lleol mewn diogelu asedau treftadaeth.

Lleoliad y prosiect, a oedd yn rhan o Ddyddiau Agored Treftadaeth 2015, oedd yr Old Church of St Nicholas, Uphill, Gwlad yr Haf, nad yw ar agor ym aml iawn i'r cyhoedd. Y nod oedd ymgymryd ag ymchwiliad archaeolegol gan ddefnyddio cyfuniad o sganio laser, Arolwg Gorsaf Gyflawn, Delweddau Trawsffurfiad Adlewyrchiant, cloddio a geoffiseg i gasglu gwybodaeth am yr adeilad i'r Ymddiriedolaeth, ond hefyd i annog gwirfoddolwyr lleol i gymryd rhan yn yr arolwg a derbyn hyfforddiant mewn technegau arolygu a chloddio. Cafodd y data crai eu prosesu ar y safle fel bod y gwirfoddolwyr yn gweld ffrwyth eu gwaith, a dewiswyd rhannau o'r gwaith hwn ar gyfer arddangosfa a gynhaliwyd ar y diwrnod agored terfynol. 

Bydd Paul Baggaley a Damien Campbell Green yng nghynhadledd Gorffennol Digidol i drafod y prosiect ac a all cydweithio o'r fath arwain at ymgysylltu tymor-hir.   

 

 

Tuesday 10 November 2015


Mae cofrestru ar agor!

Cewch gofrestru yn awr ar gyfer y gynhadledd Gorffennol Digidol, a chan fod nifer cyfyngedig o leoedd fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.

Gellir bwcio tocynnau deuddydd i gynadleddwyr drwy Eventbrite am bris o £89, sy’n cynnwys cinio a lluniaeth. Byddwch wedyn yn gallu mynychu’r amrywiaeth eang o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai ac arddangosiadau sydd ar gael yn ystod y ddau ddiwrnod, a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a fydd yn hybu cyfnewid syniadau ac yn hwyluso rhyngweithio. Hefyd fe fydd cyfle i gymryd rhan yn y ‘Sesiwn Anghynhadledd’ yn ystod y prynhawn cyntaf. Nod y sesiwn hon yw galluogi cynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol i roi cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion o fewn neu y tu allan i themâu penodol digwyddiad eleni.

Hefyd mae stondinau arddangos o ddau faint ar gael i’w bwcio. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion mewn man canolog.

Yn olaf, gallwch roi archeb ar gyfer cinio’r gynhadledd a gynhelir yn Ystafell Wedgewood yng Ngwesty St George ar noson y 10fed. Bydd pryd tri chwrs blasus, wedi’i baratoi gan eu cogydd arobryn, yn cael ei weini am 7 o’r gloch.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn Llandudno!

Thursday 22 October 2015



Cyflwyno ein tri phrif siaradwr cyntaf...

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi enwau ein tri phrif siaradwr cyntaf ar gyfer Gorffennol Digidol 2016: Anthony Corns (Rhaglen Ddarganfod Iwerddon), Andrew Lewis (Amgueddfa’r V&A) a Jon Munro (Croeso Cymru, Cinch).
 

Rheolwr Technoleg y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, yw Anthony. Cenhadaeth y sefydliad yw archwilio gorffennol Iwerddon a’i threftadaeth ddiwylliannol drwy ymgymryd ag ymchwil uwch ym maes archaeoleg Iwerddon ac mewn disgyblaethau cysylltiedig a thrwy ledaenu ffrwyth yr ymchwil hwn yn eang i’r gymuned fyd-eang. Rhan hanfodol o’r fenter hon yw defnyddio’r dulliau mwyaf diweddar i wneud yr ymchwil, ac annog cymuned lawer ehangach nag archaeolegwyr a haneswyr yn unig i gymryd rhan.
 

 Swydd Andrew yw Rheolwr Cyflawni Cynnwys Digidol y V&A ac mae’n rhan o dîm sy’n gyfrifol am bob peth digidol yn yr amgueddfa. Y V&A yw prif amgueddfa celf a dylunio’r byd, a’i nod yw cyfoethogi bywydau pobl drwy hyrwyddo ymarfer dylunio a chynyddu gwybodaeth, dealltwriaeth a mwynhad o’r byd dyluniedig. Mae cyflwyno deunydd yn ddigidol, naill ai ar-lein neu yn yr amgueddfa, yn chwarae rhan gynyddol yn ei gwaith.

 
Pennaeth Arweinyddiaeth Ddigidol Croeso Cymru a rheolwr gyfarwyddwr Cinch, ymgynghorwyr marchnata digidol a chyrchfan, yw Jon Munro. Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru a’i brif rôl yw darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i ddiwydiant ymwelwyr Cymru, gan gynnwys ym meysydd twristiaeth treftadaeth, ffydd a digidol.

Croeso i gynhadledd Gorffennol Digidol 2016


Croeso i gynhadledd Gorffennol Digidol 2016
 
Croeso i’r BlogSpot newydd ar gyfer Gorffennol Digidol 2016 a gynhelir yn nhref lan môr hardd Llandudno.


Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am gyfraniadau ar gyfer cynhadledd 2016 ar y themâu Arolygu Digidol: Ymagwedd Gyfannol a Thwristiaeth Treftadaeth Ddigidol. Mae’r manylion ar y dudalen Galwad am Gyfraniadau.


Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir, a bydd y BlogSpot yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am siaradwyr a gweithdai wrth i’r rhaglen gael ei rhoi wrth ei gilydd.



Gobeithiwn eich croesawu i gynhadledd Gorffennol Digidol 2016...