Cyflwyno ein tri phrif siaradwr cyntaf...
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi enwau ein tri phrif
siaradwr cyntaf ar gyfer Gorffennol Digidol 2016: Anthony Corns (Rhaglen
Ddarganfod Iwerddon), Andrew Lewis (Amgueddfa’r V&A) a Jon Munro (Croeso
Cymru, Cinch).
Rheolwr Technoleg y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg
ac Arloesedd Iwerddon, yw Anthony. Cenhadaeth y sefydliad yw archwilio
gorffennol Iwerddon a’i threftadaeth ddiwylliannol drwy ymgymryd ag ymchwil
uwch ym maes archaeoleg Iwerddon ac mewn disgyblaethau cysylltiedig a thrwy
ledaenu ffrwyth yr ymchwil hwn yn eang i’r gymuned fyd-eang. Rhan hanfodol o’r
fenter hon yw defnyddio’r dulliau mwyaf diweddar i wneud yr ymchwil, ac annog
cymuned lawer ehangach nag archaeolegwyr a haneswyr yn unig i gymryd rhan.
Pennaeth Arweinyddiaeth Ddigidol Croeso Cymru a rheolwr
gyfarwyddwr Cinch, ymgynghorwyr marchnata digidol a chyrchfan, yw Jon Munro.
Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru a’i brif rôl yw darparu
arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i ddiwydiant ymwelwyr Cymru, gan gynnwys
ym meysydd twristiaeth treftadaeth, ffydd a digidol.