Thursday 17 December 2015


Darlithydd ac ymchwilydd ym meysydd diogelu adeiladau a graffeg gyfrifiadurol yn Sefydliad Technoleg Dulyn yw Dr Maurice Murphy PhD, MPhil. Mae’n Aelod o Gymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu. Mae ei brofiad o arolygu a diogelu adeiladu yn ymestyn dros gyfnod o 30 mlynedd a rhagor ac mae ef wedi arwain a chymryd rhan mewn sawl rhaglen wedi’i noddi gan yr UE ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol.

Bydd Maurice yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2016 yn siarad am Fodelu Gwybodaeth am Adeiladau Hanesyddol (HBIM), proses lle mae synhwyro o bell yn cael ei ddefnyddio i wneud arolwg o adeiladwaith hanesyddol cyn mapio gwrthrychau parametrig  sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth ar fframwaith geometrig sy’n seiliedig ar ddata’r arolwg. Defnyddir iaith ddisgrifiadol geometrig i adeiladu’r gwrthrychau parametrig sy’n cynrychioli’r elfennau pensaernïol, a seilir y gwrthrychau hyn ar ddogfennau pensaernïol hanesyddol (rheolau pensaernïol a gramadegau siapiau). Hefyd caiff y rheolau a gramadegau hyn eu defnyddio i fodelu rhannau o’r adeiladweithiau er mwyn cyflymu ac awtomeiddio rhannau o’r broses. Gall y model HBIM sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad gael ei ddefnyddio i gynhyrchu’n awtomatig ddogfennau cadwraeth a dadansoddiadau o adeiladweithiau hanesyddol, yn ogystal â delweddaeth.

 
Bydd y prosiect i ddatblygu’r system gofnodi a dogfennu brototeip hon yn cael ei hegluro drwy gyfrwng astudiaethau achos o waith ar y Four Courts a Henrietta Street yn Ninas Dulyn. Bydd yr adeiladau clasurol hanesyddol hyn yn dangos sut mae’r prosiect yn creu system ar gyfer diogelu, cynnal a rheoli adeiladau hanesyddol.