Tuesday 2 February 2016

Canllawiau CBHC ar gyfer Archifau Archaeolegol Digidol – Ymagwedd Gynaliadwy at Gadwraeth Ddigidol



Cofnod Henebion Cenedlaethol (CHC) CBHC yw archif cyhoeddus Cymru o gofnodion yn ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol, a dyma’r cartref cenedlaethol ar gyfer archifau archaeolegol digidol. Yn unol â hyn, mae wrthi’n datblygu ei gyfleusterau a gweithdrefnau archifo digidol i gydymffurfio â safonau rhyngwladol, sef model cyfeiriol y System Gwybodaeth Archifol Agored (OAIS) – OAIS (ISO 14721). I sicrhau cydymffurfiad effeithiol a dichonadwy, mae’n bwriadu mabwysiadu pecyn archifau digidol sy’n bodloni safonau’r diwydiant, wedi’i gynhyrchu gan Preservica, fel rhan o’i blatfform data presennol. Bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiad â llifoedd gwaith OAIS, bod cynnwys digidol yn cael ei ddiogelu, a bod y cyhoedd yn gallu cyrchu cofnodion digidol.

Er mwyn sicrhau bod derbynion digidol yn cael eu derbyn a’u hymgorffori yn y system hon mor effeithlon â phosibl, ac mewn modd cynaliadwy sy’n cymryd lefelau staffio i ystyriaeth, mae CBHC wedi creu canllawiau ar gyfer archifau digidol. Mae’r rhain yn nodi sut y dylai cynhyrchwyr data yn y sector sy’n bwriadu rhoi cofnodion ar adnau yn CHC drefnu, disgrifio a fformatio archifau archaeolegol digidol. Bwriedir i’r canllawiau gael eu defnyddio o ddechrau prosiect, ac fe’u cynhwysir fel atodiad i Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Casglu ac Adneuo Archifau Archaeolegol a gyhoeddir maes o law. Cânt eu lledaenu hefyd drwy’r drefn caniatâd cynllunio.

Bydd y sgwrs yn amlinellu gofynion y model cyfeiriol OAIS ac yn dangos sut y mae CBHC yn gweithredu i gydymffurfio ag ef. Bydd yn egluro’r gofynion cyffredinol yn y canllawiau yn y cyd-destun hwn, gan roi pwyslais ar yr angen am ddata wedi’u strwythuro’n dda a metadata disgrifiadol digonol i ganiatáu ar gyfer cadwraeth ddigidol ac, yn bwysicaf oll, gallu defnyddwyr data i gyrchu a defnyddio’r archif.

Gan Gareth Edwards, Pennaeth Gwybodaeth a Dealltwriaeth, CBHC


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

No comments:

Post a Comment