Thursday 4 February 2016

Mapio’n Ddigidol Dreftadaeth Lenyddol Caeredin: James Loxley (Prifysgol Caeredin)


Lle hynod o lenyddol yw Caeredin – yn wir, hi oedd y ddinas gyntaf i gael ei dynodi’n Ddinas Llenyddiaeth y Byd UNESCO, rhwydwaith sydd bellach yn cynnwys Prâg, Heidelberg, Dulyn a Melbourne (a Norwich. Peidiwch ag anghofio Norwich.). Mae iddi dreftadaeth hir fel man geni a chartref awduron yn cynnwys Walter Scott, Robert Burns, Robert Louis Stevenson, Muriel Spark a J. K. Rowling. Gall ymwelwyr grwydro drwy ‘Makars’ Court’, a galw heibio Amgueddfa’r Awduron.

Yn fwy na hyn, mae Caeredin wedi cael ei defnyddio’n aml yn lleoliad ar gyfer gweithiau grymus a phoblogaidd, o Heart of Midlothian gan Scott i nofelau a straeon byrion Irvine Welsh a llyfrau Rebus Ian Rankin. Dinas wedi’i hadeiladu o’r gair ysgrifenedig yn ogystal â cherrig yw hi.

Prosiect ar y cyd rhwng ysgolheigion llenyddol, cyfrifiadurwyr sy’n arbenigo mewn cloddio testun, ac arbenigwyr delweddu gwybodaeth yw prosiect Palimpsest. Ei nod oedd darganfod ffordd newydd o gyrchu a rhyngweithio gyda’r dreftadaeth gyfoethog hon. Gan ddefnyddio technegau cloddio testun a geo-leoli ar gasgliadau mawr o weithiau wedi’u digido, a chanolbwyntio ar enwau lleoedd fel marcwyr sy’n dangos cysylltiad llyfr â lle, creodd y tîm gronfa ddata o 46,000 o ddetholiadau o fwy na 500 o weithiau sy’n defnyddio Caeredin yn lleoliad mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Aeth y tîm ati hefyd i greu offer delweddu arloesol a fyddai’n cynnig cyfle i ddefnyddwyr ryngweithio gyda’r data mewn gwahanol ffyrdd. Er i’r prosiect ddechrau fel cysyniad academaidd, gyda nifer o heriau technegol i’w goresgyn, y bwriad fu darparu’r adnoddau ar gyfer defnydd llawer ehangach.

Yng nghynhadledd Gorffennol Digidol eleni, bydd James Loxley yn disgrifio’r heriau a wynebwyd yn ystod y prosiect, a’r hyn a ddysgwyd wrth adeiladu a defnyddio’r adnoddau ar-lein a grëwyd. Bydd yn rhoi sylw hefyd i ddatblygiadau yn y dyfodol, wrth iddynt gynyddu galluoedd yr adnoddau ac ymateb i adborth defnyddwyr.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

No comments:

Post a Comment