Friday 5 February 2016

Prosiect Arloesol I Ddigido Holl Fapiau Degwm Cymru Yw Cynefin


Prosiect arloesol i ddigido holl fapiau degwm Cymru yw Cynefin. Caiff ei ariannu’n bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i weinyddu gan Archifau Cymru. Gwneir y rhan fwyaf o’r gwaith gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) gan ddefnyddio ei chasgliad o fapiau degwm, sydd bron yn gyflawn, ac mae’n gofyn am gryn ymdrech gadwraethol.

Defnyddir techneg arbennig i wneud y gwaith digido: caiff mapiau mawr eu gosod ar wal grom fagnetig a thynnir eu llun ar gydraniad uchel. Mae hyn yn cynhyrchu delweddau o ansawdd uchel iawn. Mae 800 map o gyfanswm o ryw 1200 wedi’u digido eisoes.

Mae’r holl fapiau a gynhyrchwyd ar gael ar-lein ar wefan cynefin.wales, ochr yn ochr â delweddau o’r holl ddogfennau rhaniad degwm. I gael y gwerth mwyaf posibl o’r adnodd hwn, mae’r wefan yn cynnwys swyddogaethau i drawsgrifio’r mapiau a’r dogfennau drwy gymorth torfol, gyda’r nod o wneud yr holl ddata yn chwiliadwy.

 
Mae’r casgliad cyfan hwn o fapiau degwm wedi’u digido yn cynnig cyfle gwych i edrych ar Gymru yn y 1840au mewn ffordd fwy cyfannol nad oedd yn ymarferol o’r blaen. Nid gweld rheilffyrdd ar fap yw’r unig beth y gallwch ei wneud, gallwch hefyd weld sut y datblygodd y rheilffyrdd. Gallwch weld bod rheilffordd Taf Merthyr eisoes wedi’i chwblhau a bod y lleill, yn mynd i’r dwyrain a’r gorllewin, yn y broses o gael eu hadeiladu. Roedd rhai rheilffyrdd hen iawn yn Llanelli, Abertawe ac ardaloedd diwydiannol eraill, sydd wedi diflannu erbyn hyn. Roedd hefyd rwydwaith o gamlesi a ffyrdd wedi’u rheoli gan dollbyrth. Gall hyn oll gael ei archwilio’n rhwydd yn awr gan ddefnyddio map degwm digidol Cymru.

Mae gan y cyfoeth o wybodaeth a drawsgrifiwyd eisoes botensial enfawr ar gyfer ymchwil a gwneud cysylltiadau â deunydd archifol arall. Datgelir natur cymdeithas, y ffordd nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn berchen ar y tir lle roeddynt yn byw. Y nifer bach o dirfeddianwyr mawr oedd y bobl a oedd yn cyfrif, er enghraifft, hwy oedd yr unig bobl bron a gâi bleidleisio. Dyma gyfnod gwrthryfel y Siartwyr a therfysgoedd Beca.
Rhoddir cryn bwyslais ar greu map hawdd ei defnyddio ac ar adborth defnyddwyr, a cheir agweddau gwirfoddoli a marchnata cryf, sy’n cynnig ateb deniadol a chynaliadwy sy’n dod â manteision tymor-hir.

Mae’r prosiect yn cynnwys partneriaid ym maes archifau ar draws Cymru a bydd ffrwyth y gwaith yn cael ei gynnwys ar Gasgliad y Werin Cymru.

Rhyngwyneb daearyddol fydd y wefan derfynol yn LlGC a bydd yn ddigon hyblyg i arddangos rhannau eraill o gasgliad y Llyfrgell, gan weddnewid cyfleoedd mynediad ac ymchwil.



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

No comments:

Post a Comment