Stondinau a Chofrestru

Cynhadledd ddau ddiwrnod sy’n canolbwyntio ar dechnolegau digidol arloesol ar gyfer casglu, dehongli a lledaenu gwybodaeth am safleoedd ac arteffactau treftadaeth yw Gorffennol Digidol. Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, bydd cynhadledd Gorffennol Digidol 2016 yn cael ei chynnal yng Ngwesty crand St George yn Llandudno, tref lan môr Fictoraidd. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfuniad o bapurau, seminarau, a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn edrych ar y technegau arolygu technegol a dehongli diweddaraf a’u cymwysiadau ym meysydd dehongli, addysgu a diogelu treftadaeth.

Stondinau

Mae nifer cyfyngedig o stondinau Arddangos neu Boster ar gael i’w llogi am y ddau ddiwrnod.

Mae Gorffennol Digidol yn denu cynadleddwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt ac mae’n cynnig cyfle perffaith i chi arddangos cynnyrch eich cwmni neu sefydliad i gynulleidfa wybodus a gwerthfawrogol. Mae stondinau Arddangos mawr ar gael am £215 a stondinau Poster am £165 ac mae’r prisiau hyn yn cynnwys cost un cofrestriad cynhadledd sy’n werth £89 (nid oes angen talu TAW). Gellir eu bwcio nawr drwy EventBrite.

Byddwch cystal â nodi mai Dydd Gwener, 5 Chwefror fydd y dyddiad olaf ar gyfer bwcio lle yn y gynhadledd drwy Eventbrite. Er mwyn bwcio lle wedi hynny, cysylltwch â Sue Fielding yn y Comisiwn Brenhinol: susan.fielding@cbhc.gov.uk neu 01970 621219. 

Cinio’r Gynhadledd

Cynhelir cinio cynhadledd tri-chwrs yn Ystafell Wedgewood yng Ngwesty Saint George gyda’r nos ar 10 Chwefror. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynadleddwyr rwydweithio, cyfnewid syniadau a thrafod themâu’r gynhadledd. Cost y cinio yw £33, a gellir bwcio drwy Eventbrite.


Bwydlen

 
Cawl Tomato a Basil gyda Thapanâd o Olifau 

Terîn Melon ac Aeron Oer gyda Jeli Blodau Ysgaw, Olew Mintys 

Salad o Hwyaden Fwg, Stribedi Bacwn a Mafon, Dresin Ceirios Du 

**** 

Brest Cyw Iâr Rost, Stwffin Saets a Nionyn, Tatws Rhost, Grefi Teim 

Ffiled o Leden gyda Hufen Gorgimychiaid, Olew Cimwch, Tatws Newydd wedi’u Gwasgu 

Pei Gwreiddlysiau Rhost gyda Grefi Gwin Coch a Thatws Hufennog 

Korma Llysiau Mwyn gyda Reis Sawrus a Naan Garlleg 

**** 

Siocled Gwyn, Baileys a Delice Pistasio 

Cacen Gaws Mango ac Oren gyda Jeli Lemwn 

Caws o Gymru a Bisgedi

I gael mwy o wybodaeth, neu atebion i unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Susan Fielding yn susan.fielding@cbhc.gov.uk neu ar 01970 621219.


 
 

No comments:

Post a Comment