Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu gan
Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau
digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am
dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd
unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r
trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau
digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i
gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.
Cynigir
cyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau seminar a gweithdai ac arddangosiadau
ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw
hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau. Darperir sesiynau anghynhadledd yn
ystod y prynhawn cyntaf, i roi cyfle i gynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen
ffurfiol wneud cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion sy’n
cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd â themâu’r digwyddiad eleni. Bydd stondinau
Arddangosfa a Phoster hefyd yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu
gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion,
datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.
Bydd
cynhadledd Gorffennol Digidol 2016 yn cael ei chynnal yn nhref Fictoraidd
Llandudno, “Brenhines Trefi Glan Môr Cymru”. Mae Llandudno, ar arfordir gogledd
Cymru, yn hawdd ei chyrraedd mewn car ac ar y trên ac mae ganddi gysylltiadau
da â meysydd awyr Lerpwl a Manceinion. Cynhelir y gynhadledd yng Ngwesty St
George, gwesty arobryn a adeiladwyd ym 1854 ac sy’n parhau’n un o adeiladau
mwyaf ysblennydd y dref.
Mae
adborth gan gynadleddwyr blaenorol wedi cynnwys sylwadau fel:
‘Mae’n dwyn ynghyd amrywiaeth o brosiectau a
sefydliadau i ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwneud cysylltiadau proffesiynol’
‘Pynciau amrywiol, trefnus a phroffesiynol, tîm
cyfeillgar a brwd, yn dod â phobl o amgueddfeydd, diwydiant a’r byd academaidd
at ei gilydd’
‘Mae’n rhoi cyflwyniad i dopigau ond ar lefel sydd
ddim yn rhy uchel fel eu bod yn annealladwy neu’n rhy isel fel eu bod yn
ailadrodd yr hyn a wyddoch eisoes. Mae’n caniatáu ar gyfer rhwydweithio o fewn
grwpiau llai, fel y gall sgyrsiau adeiladol gael eu cynnal. Mae’n darparu
llawer o wybodaeth mewn cyfnod byr o amser!’
‘Mae’n darparu llwyfan gwych ar gyfer rhannu a
thrafod syniadau, arferion a damcaniaethau ar draws ffin amlddisgyblaethol ac
mae pawb sy’n mynychu yn cael ei gynnwys’
‘Awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar’
‘Ysbrydoledig’
No comments:
Post a Comment